Mae BT mewn trafodaethau cychwynnol i brynu rhwydwaith ffonau symudol O2.
Mae grŵp yn dweud ei fod wedi derbyn cais o ddiddordeb gan gyfranddalwyr mewn dwy rwydwaith – un o’r rheiny yw O2.
Dywedodd BT: “Mae’r trafodaethau yn rhai cychwynnol iawn ac nid oes yna sicrwydd fod yna drafodion am ddigwydd gyda dwy rwydwaith ffonau symudol.”
Mae BT yn awyddus i ddychwelyd i’r maes rhwydwaith ffonau symudol, gyda EE hefyd yn dangos diddordeb.
Roedd y grwp yn ymateb i adroddiadau yn y wasg am gytundeb gyda pherchnogion O2, Telefonica, a brynodd BT Cellnet yn 2001.
Mae’n debyg mai’r rhwydwaith arall yw EE, sy’n berchen i Orange a Deutsche Telekom.
Dywedodd llefarydd: “Bydd datganiad pellach yn cael ei wneud pan fydd hynny’n addas.”