John Allen
Mae’r rheithgor yn achos John Allen – cyn-bennaeth cartrefi plant yn y gogledd, sy’n wynebu cyfres o gyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol – yn parhau i ystyried eu dyfarniad ar ôl bron i wythnos.

Yr wythnos diwethaf dywedodd y barnwr yn yr achos, Mr Ustus Openshaw, nad oedd cyfyngiad ar yr amser sydd gan aelodau’r rheithgor i gyrraedd dyfarniad.

Maen nhw wedi bod yn asesu’r dystiolaeth ynglŷn â’r 40 cyhuddiad sy’n wynebu John Allen ers 19 Tachwedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Y cefndir

Mae John Allen, 73, wedi ei gyhuddo o 40 achos o gam-drin difrifol yn erbyn 19 bachgen ac un ferch, rhwng saith a 15 oed, rhwng 1968 hyd at 1991.

Fe wnaeth Allen, o Needham Market, ger Ipswich yn Suffolk sefydlu cwmni Cymuned Bryn Alyn, grŵp o 11 o gartrefi plant ger Wrecsam yn 1968.

Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug bod y dyn busnes wedi creu “awyrgylch o ofn” wrth iddo gam-drin 20 o blant oedd yn byw yn ei gartrefi gofal.

Roedd y rhan fwyaf o’r achosion o gam-drin honedig wedi digwydd mewn tri o’r cartrefi – Bryn Alyn, Pentre Saeson a Bryn Terion.

Clywodd y llys bod rhai o’r dioddefwyr wedi ceisio mynd at yr awdurdodau ar y pryd ond fe gawson nhw eu hanwybyddu neu doedd neb yn eu credu.