Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi y bydd ysgolion, carchardai a chynghorau yn cael eu gorfodi i gyflwyno mesurau i atal pobl rhag cael eu hysgogi i ymuno a grwpiau eithafol.

Fe fydd dyletswydd statudol ar sefydliadau – gan gynnwys colegau, prifysgolion, a’r heddlu – i helpu i atal radicaleiddio, meddai Theresa May mewn digwyddiad gwrth-frawychiaeth yn Llundain.

Os yw sefydliadau’n methu gwneud hynny fe fydd gweinidogion yn gallu eu gorfodi, drwy orchymyn llys, i gyflwyno cyfarwyddiadau.

Mae’n rhan o becyn o newidiadau i’r Bil Gwrth-Frawychiaeth a Diogelwch, gyda’r bwriad o dynhau mesurau diogelwch yn y DU. Fe fydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r Senedd ddydd Mercher.

Dywedodd Theresa May: “Mae’r bygythiad rydym yn ei wynebu ar hyn o bryd yn fwy efallai nag erioed o’r blaen – mae’n rhaid i ni gael y pwerau mewn lle i amddiffyn ein hunain.”

Fe fydd y ddeddfwriaeth newydd hefyd yn cynnwys mesurau i atal cwmnïau yswiriant rhag talu pridwerth i frawychwyr, yn ogystal ag atal pobl sy’n cael eu hamau o ymladd dramor, rhag dychwelyd i’r DU am gyfnod.

Dros y penwythnos daeth i’r amlwg y bydd yr heddlu yn cael pwerau yn y Bil newydd a fydd yn eu galluogi i orfodi cwmnïau rhyngrwyd i drosglwyddo gwybodaeth a allai helpu i adnabod pobl sy’n cael eu hamau o frawychiaeth neu bedoffiliaid.

Ymgyrch

Heddiw hefyd cafodd ymgyrch gwrth-frawychiaeth cenedlaethol ei lansio.

Fe fydd nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yr wythnos hon a bydd swyddogion yn cwrdd â 6,000 o bobl mewn 80 o leoliadau gan gynnwys ysgolion, prifysgolion, meysydd awyr, canolfannau siopau, sinemâu a ffermydd
Fe rybuddiodd dirprwy Gomisiynydd Heddlu’r Metropolitan Mark Rowley na all yr heddlu ac asiantaethau diogelwch eraill yn unig fynd i’r afael a’r bygythiad gan frawychwyr ac mae’n galw ar y cyhoedd a busnesau i’w cynorthwyo.

Wrth drafod brawychwyr dywedodd Mark Rowley: “Nid ydyn nhw bellach yn dod o wledydd fel Irac ac Afghanistan yn unig, ymhell o feddyliau’r cyhoedd.

“Maen nhw bellach yn ein cymunedau ac yn cael eu radicaleiddio gan ddelweddau a negeseuon maen nhw’n eu darllen ar wefannau cymdeithasol, ac yn barod i ladd dros yr achos.”

Yn gynharach eleni daeth i’r amlwg bod tri o Gaerdydd – Nasser Muthana, 20, a’i frawd Aseel, 17, a’u ffrind Reyaad Khan, 21, wedi teithio i Syria i ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).