The National
Cafodd papur dyddiol newydd ei lansio yn yr Alban heddiw sy’n disgrifio ei hun fel y papur sy’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban.

Mae The National ar werth o heddiw ymlaen am gyfnod peilot o bum diwrnod. Mae’n cael ei gyhoeddi gan Newsquest, sydd eisoes yn cyhoeddi’r Herald, Sunday Herald a’r Evening Times yn yr Alban.

Mae’r papur newydd yn costio 50 ceiniog, gyda’r slogan “Y papur newydd sy’n cefnogi Alban Annibynnol.”

Mae’r golofn olygyddol gyntaf yn nodi “Nid yw’r status quo bellach yn opsiwn ac mae’r awydd am ddatganoli pellach yn uchel tu hwnt” wrth ganolbwyntio ar gri gan elusennau i Gomisiwn Smith i ddatganoli grymoedd y wladwriaeth les i Senedd yr Alban.

“Yn syml, mae pobl yr Alban eisiau bod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, a’r cenedlaethau i ddod.”

Dyma’r ail bapur newydd a fydd yn cefnogi Annibyniaeth i’r Alban, gyda’i chwaer bapur, Sunday Herald wedi cyhoeddi ei bod o blaid Annibyniaeth yn y refferendwm ym mis Medi eleni.

‘Dadl gytbwys’

Dywedodd y golygydd Richard Walker na fydd y golofn olygyddol yn llefarydd ar ran yr SNP a’r llywodraeth,

Meddai: “Ni fyddai hynny’n ffordd iach o wneud pethau. Fe fyddem yn feirniadol pan mae hynny’n addas ac yn canmol os oes angen.”

Ychwanegodd: “Yn ystod yr ymgyrch refferendwm, roedd hi’n dod yn fwyfwy eglur fod yna ddiffyg democrataidd yn nhermau’r cyfryngau Albanaidd

“Mewn poblogaeth o dros 5 miliwn, gyda 45% wedi pleidleisio Ie, dim ond un papur a fu’n gefnogol i annibyniaeth. Ac mae hynny i weld yn annheg.

“Y bwriad gyda’r National yw gwneud yn iawn am yr anghydbwysedd a gwneud dadl gytbwys dros annibyniaeth. “