Madeleine McCann
Mae dyn a gafodd ei holi ar amheuaeth o fod â rhan yn niflaniad y ferch fach Madeleine McCann ym Mhortiwgal, yn cael ei holi unwaith eto gan yr heddlu.

Mae Robert Murat yn un o 11 o bobol sy’n cael eu holi fel rhan o’r ymchwiliad, ond dydy hi ddim yn glir eto a yw dan amheuaeth o fod wedi cyflawni trosedd neu a yw’n cael ei holi fel tyst.

Mae lle i gredu bod gwraig Murat hefyd yn cael ei holi.

Mae disgwyl i heddlu o Brydain deithio i Bortiwgal i gymryd rhan yn yr ymchwiliad diweddaraf.

Roedd Robert Murat o dan amheuaeth yn 2007 ond cafodd ei ryddhau gan yr heddlu’n ddiweddarach.

Mae’n parhau i wadu ei fod ynghlwm wrth ddiflaniad y ferch fach o lety gwyliau’r teulu yn Praia de Luz yn 2007.