Y Pab Ffransis
Mae’r Pab Ffransis wedi galw am heddwch rhwng Israel a Phalestina, gan feirniadu’r ymosodiad ar synagog yn Jerwsalem.
Dywedodd y Pab ei fod yn gofidio am yr anghydfod, wedi i ddau ddyn o Balestina ymosod ar y synagog, gan ladd pump o bobol.
Mae Israel wedi addo ymateb i’r ymosodiad.
Dywedodd y Pab ei fod yn gweddïo dros y rhai fu farw.
Galwodd ar Israel a Phalestina i roi terfyn ar y “casineb a’r trais a gwneud penderfyniadau dewr i gymodi a sicrhau heddwch”.
Ychwanegodd: “Mae adeiladu heddwch yn anodd, ond mae byw heb heddwch yn artaith”.