Mae un o ffigyrau mwyaf blaenllaw’r mudiad amgylcheddol ym Mhrydain, Syr Jonathon Porritt, yn annerch cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan y mudiad gwrth-niwclear PAWB, Pobl Atal Wylfa B, heddiw.
Mae Jonathon Porritt yn cael ei adnabod am ei waith gyda’r Blaid Werdd ac yn benodol yng Nghymru am ei rôl wrth sefydlu cytundeb rhwng ei blaid a Phlaid Cymru yng Ngheredigion a Gogledd Sir Benfro, pan gafodd Cynog Dafis ei ethol fel AS.
‘Gosod esiampl i weddill y byd’
Bu’n cyfarch cynulleidfa yng Nghanolfan Telford, Porthaethwy y prynhawn yma a cyn hynny, dywedodd mewn blog yn y Guardian:
“Mae Llywodraeth Cymru gydag agwedd hollol wahanol i’r glymblaid Brydeinig o ran llywodraeth gynaliadwy.
“Mae’n adlewyrchu’r diwydiant gwleidyddol yn y wlad, lle mae consensws o blaid cynaliadwyedd ers dechrau’r cyfnod datganoli.
“Ond byddai’n gamgymeriad i ddweud bod popeth yn iawn yng Nghymru. Mae allyriadau carbon yn rhy uchel ac mae’r system gynllunio yn atal datblygiadau ynni adnewyddadwy.
“Fel amgylcheddwr a chefnogwr o ddatganoli pwerau i Gymru, rwy’n llawn obeithio mai Cymru fydd y wlad fechan sy’n arwain Prydain allan o’r llanast yma ac yn gosod esiampl i weddill y byd.”