Andy Coulson
Fe allai Andy Coulson gaei ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddarach yr wythnos hon yn ôl adroddiadau sydd heb eu cadarnhau.

Mae disgwyl i gyn olygydd y News of the World a chyn bennaeth cyfathrebu Downing Street gael ei ryddhau ddydd Gwener, yn ôl y Daily Mail.

Cafodd Coulson, 46 oed, ei garcharu am 18 mis ar 4 Gorffennaf ar ol ei gael yn euog o gynllwynio i glustfeinio ar negeseuon ffôn, yn dilyn achos a barodd wyth mis yn yr Old Bailey.

Os yw’n cael ei ryddhau ddydd Gwener mae’n golygu y bydd wedi treulio llai na phum mis dan glo.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gwrthod gwneud sylw am achosion unigol.

Fe ddechreuodd Coulson ei ddedfryd yng ngharchar Belmarsh yn Llundain ond ym mis Medi cafodd ei symud i garchar agored Hollesley Bay yn Suffolk.