Nid yw prisiau bwyd wedi codi ers chwe mis
Mae cynnydd bychan wedi bod yng ngraddfa chwyddiant ym mis Hydref, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cododd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur cyfradd chwyddiant, o 1.2% i 1.3%, ar ôl cyrraedd y ffigwr isaf ers pum mlynedd ym mis Medi.

Cwymp mewn prisiau teithio sydd wedi cyfrannu fwyaf at y cynnydd mewn chwyddiant, yn ôl y ffigyrau.

Er hyn, nid yw prisiau bwyd wedi codi am y chwe mis diwethaf, sef y cyfnod hiraf ers 14 mlynedd.

Cystadleuaeth

Disgynnodd prisiau bwyd a diodydd o 1.4% ym mis Hydref o’i gymharu â’r llynedd, wrth i’r gystadleuaeth ffyrnig rhwng archfarchnadoedd barhau.

Mae CPI wedi bod yn is na tharged Banc Lloegr o 2% am yr unfed ar ddeg mis yn olynol erbyn hyn, gyda chyflwr yr economi rhyngwladol yn rhannol gyfrifol am hyn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander: “Mae risgiau amlwg o’n blaenau sy’n codi o ansefydlogrwydd ym mharth yr Ewro a’r economi ehangach.

“Ond, ynghyd a thwf cryf a’r swyddi sy’n cael eu creu, mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y cynllun ar gyfer ein heconomi yn gweithio a’n bod ni’n gwneud cynnydd.”