Hyfforddwr Cymru Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi enwi Jonathan Davies yn nhîm Cymru i herio’r All Blacks ddydd Sadwrn, ar ôl i’r canolwr wella o anaf.
Fe fydd Leigh Halfpenny a Dan Biggar hefyd yn dychwelyd i’r tîm ar ôl methu’r gêm yn erbyn Fiji gydag anafiadau.
Sam Warburton fydd y capten unwaith eto, ac mae’r un wyth blaenwr a ddechreuodd gêm gyntaf yr hydref yn erbyn Awstralia wedi’u dewis eto.
Dywedodd Gatland ei fod eisiau dewis tîm “profiadol” i herio pencampwyr y byd dydd Sadwrn.
Does dim lle ar y fainc fodd bynnag i’r maswr Rhys Priestland, gyda James Hook yn cymryd y lle hwnnw.
Ar y fainc hefyd mae Liam Williams er gwaethaf dau berfformiad cryf hyd yn hyn yr hydref, a hynny oherwydd iddo gael anaf i’w bigwrn yn erbyn Fiji.
Dyw Gethin Jenkins na Bradley Davies ar gael ar gyfer y gêm chwaith oherwydd anafiadau.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny (Toulon), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Clermont), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Paul James (Caerfaddon), Richard Hibbard (Caerloyw), Samson Lee (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (dim clwb), Sam Warburton (Gleision, capten), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Nicky Smith (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), James Hook (Caerloyw), Liam Williams (Scarlets).