Dyw mwy na chwarter o droseddau rhyw – gan gynnwys trais rhywiol – ddim yn cael eu cofnodi fel troseddau oherwydd “methiannau annerbyniol” gan yr heddlu, yn ôl adroddiad beirniadol.

Mae 26% o droseddau rhyw yn cael eu tan-gofnodi meddai’r adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC), tra bod y gyfradd genedlaethol gan heddweision o wneud penderfyniadau anghywir i ganslo cofnodion troseddu am drais rhywiol yn 20%.

Roedd cyfanswm tan-gofnodi troseddau gan bob un o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn 19% – sy’n golygu mwy na 800,000 o droseddau bob blwyddyn.

Bu’r adolygiad yn edrych ar fwy na 8,000 o adroddiadau am droseddau i’r heddlu rhwng Tachwedd 2012 a mis Hydref 2013. Daeth i’r casgliad fod 37 o achosion o drais rhywiol nad oedd wedi’u cofnodi fel troseddau.

Pryder arbennig

A hyd yn oed pan fydd troseddau yn cael eu cofnodi’n gywir, mae llawer yn cael eu dileu neu eu canslo o’r system – gan gynnwys 200 o achosion o drais a mwy na 250 o droseddau treisgar.

Dywedodd y Prif Arolygydd Ei Mawrhydi, Tom Winsor: “Yn achos trais a throseddau rhywiol eraill, mae hyn yn fater o bryder arbennig.

“Mae’n arbennig o bwysig mewn achosion mor ddifrifol â thrais rhywiol, fod diffygion fel hyn yn cael eu cywiro ar frys. Mewn rhai heddluoedd, mae camau eisoes yn cael eu cymryd yn hyn o beth.

“Dylai’r heddlu sefydlu’r rhagdybiaeth bod y dioddefwr yn cael ei gredu ar unwaith. Mae dioddefwyr angen, ac maen nhw’n haeddu, cefnogaeth a chymorth. Mae ganddyn nhw a’u cymunedau’r hawl i gyfiawnder.”

Darganfuwyd hefyd fod un o bob pump o’r 3,246 o benderfyniadau i ganslo cofnod trosedd fel “dim-trosedd” yn anghywir.