David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cadeirio cyfarfod o bwyllgor brys y Llywodraeth, Cobra, heddiw er mwyn asesu’r cynnydd yn y frwydr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Ddoe, roedd y Prif Weinidog wedi rhoi addewid y byddai’r brawychwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell ar ôl i fideo ddod i’r amlwg yn dangos y gwystl o’r Unol Daleithiau, Peter Kassig yn cael ei lofruddio gan IS.

Cafodd ei gipio yn Syria ym mis Hydref y llynedd tra’n gwneud gwaith dyngarol yn y wlad.

Yn y cyfamser, mae’r chwilio’n parhau am eithafwr gydag acen Brydeinig, sy’n dwyn yr enw Jihadi John ac sydd wedi cael ei weld yn y fideos sy’n dangos gwystlon yn cael eu dienyddio.

Yn ôl adroddiadau cafodd ei anafu mewn ymosodiad o’r awyr yn erbyn targedau IS yn Irac.

Mae ’na ddyfalu hefyd mai’r dyn sy’n sefyll wrth ymyl Jihadi John yn y fideo yw’r myfyriwr 20 oed o Gaerdydd, Nasser Muthana.

Mewn datganiad i ASau, dywedodd David Cameron y byddai’r brawychwyr “yn cael eu gorchfygu ac yn wynebu’r cyfiawnder maen nhw’n ei haeddu.

“Mae’r bygythiad yn cael ei wynebu gan wledydd ar draws y byd. Mae’n rhaid i ni ei wynebu gyda’n gilydd.

Mae disgwyl i uwch swyddogion cudd wybodaeth a swyddogion milwrol fynychu cyfarfod Cobra yn ddiweddarach.