Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ffordd ddifrifol yn Aberdâr prynhawn ma.

Bu dau gerbyd – Skoda lliw arian a Vauxhall Astra lliw arian – mewn gwrthdrawiad ar Heol Caerdydd, tu allan i dafarn y Full Moon am 1.40 prynhawn dydd Llun.

Cafodd dau gerddwr – dyn a dynes – eu hanafu yn y digwyddiad a’u cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond nid rhai sy’n bygwth bywyd.

Mae dyn yn ei 40au yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y Vauxhall Astra yn gyrru ar hyd Stryd Wind ac yna Heol Caerdydd cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw. Maen nhw hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.