Erol Incedal yn ystod yr achos yn yr Old Bailey
Cafwyd myfyriwr yn euog o un cyhuddiad o weithred brawychiaeth mewn achos rhannol gyfrinachol yn yr Old Bailey, gellir datgelu heddiw.

Cafwyd Erol Incedal, 26, yn euog o feddu ar ddogfen oedd yn dangos sut mae gwneud bom a oedd yn debygol o fod yn ddefnyddiol i frawychwyr.

Ond cafodd y rheithgor yn yr Old Bailey eu rhyddhau o’u dyletswyddau wedi iddyn nhw fethu a chyrraedd dyfarniad ar gyhuddiad arall yn ei erbyn o drefnu cynllwyn brawychiaeth gydag eraill dramor.

Roedd Erol Incedal wedi cael ei gyhuddo o dargedu Tony Blair a’i wraig Cherie fel rhan o’r cynllwyn brawychiaeth.

Penderfynwyd heddiw y bydd Erol Incedal yn wynebu ail achos yn ei erbyn ar 23 Chwefror y flwyddyn nesaf.

Roedd ei gyd-ddiffynnydd Mounir Rarmoul-Bouhadjar, 26, wedi pledio’n euog cyn i’r achos ddechrau o fod a’r un ddogfen yn ei feddiant.

Cafodd manylion yr achos eu cyhoeddi heddiw ar ôl i’r barnwr yn yr achos, Mr Ustus Nicol, godi’r gwaharddiad.