Mae’r sengl elusen Band Aid yn mynd ar werth heddiw, ac mae eisoes yn ffefryn gan gwmnïau betio i fod yn rhif un dros y Nadolig.

Mae’r fersiwn newydd o ‘Do They Know It’s Christmas?’ yn cynnwys wynebau cyfarwydd fel One Direction, Bono a Ellie Goulding ac mae disgwyl i’r gân godi miliynau i helpu’r frwydr erbyn Ebola yng Ngorllewin Affrica.

Mae’r Canghellor George Osborne hefyd wedi cytuno hepgor treth ar werth ar werthiant y sengl.

Mae’r fersiwn newydd yn nodi pen blwydd y gân yn 30 oed. Cafodd ei sgwennu’n wreiddiol i godi arian ar gyfer yr argyfwng newyn yn Ethiopia yn 1984.

Cafodd y sengl ei chwarae am y tro cyntaf ar y X Factor neithiwr gyda Bob Geldof yn gwneud ymddangosiad arbennig i annog pobl i brynu’r record.