Elain llwyd yn cael ei chadeirio
Y clybiau cartref a enillodd ar y llwyfan ac yn y gwaith cartre’ yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru.
Ond fe aeth y Gadair i Feirionnydd – i Elain Llwyd o Glwb Cwmtirmynach yn un o’r cystadlaethau gorau ers blynyddoedd.
O ganlyniad, roedd y ddau feirniad yn argymell bod eisiau dwy gystadleuaeth genedlaethol bellach – Cadair a Choron, i’r cerddi a’r rhyddiaith.
Ychydig cyn 2.30 y bore y cyhoeddwyd mai Ceredigion oedd wedi ennill Tlws yr Eisteddfod – a’r tlysau unigol am y cystadlaethau cartref a’r cystadlaethau llwyfan.
Roedd hynny’n dilyn cyfres o lwyddiannau, gan gynnwys buddugoliaeth yng nghystadleuaeth y côr i Glwb Pontsian o Geredigion, y cynta’ o blith wyth o gorau pedwar llais.
Enillwyr y cor - Pontsian, Ceredigion
Yn ôl y beirniad, Rhian Lois, roedd honno’n gystadleuaeth “hollol, hollol wych”.
Cadair – stori ‘feistrolgar’
Roedd cystadleuaeth y Gadair yn un arbennig o dda hefyd gyda’r ddau feirniad, Eurig Salisbury a Dylan Iorwerth, yn cydnabod eu bod wedi wynebu tasg “amhosib” yn dewis rhwng y stori fer a’r gerdd fuddugol.
Yn y diwedd, fe aeth y wobr i Elain Llwyd, athrawes gynradd o Gwmtirmynach, am stori fer a gafodd ei galw’n “feistrolgar”.
Yn ôl y beirniaid, roedd hi wedi cyflawni camp wirioneddol anodd trwy greu stori llawn dirgelwch mewn tri rhan, gyda chynildeb a rheolaeth lwyr.
Ail agos iawn
Ond roedd yna ganmoliaeth uchel iawn hefyd i’r ail, Catrin Haf Jones, o glwb Mydroilyn yng Ngheredigion, gyda cherdd grefftus iawn yn codi o ddarllen dyddiaduron e imam-gu ar ôl iddi gael diagnosis o demensia.
Yn ôl Eurig Salisbury, roedd hi wedi llwyddo i ddweud llawer iawn gydag ychydig iawn o eiriau a hi a enillodd wobr y Gerdd.
Ac fe ddywedodd y dylai’r mudiad ystyried cynnig coron yn ogystal â chadair er mwyn cydnabod y ddwy gamp.
Roedd y Gadair wedi ei chreu gan ddau o aelodau clybiau Ceredigion – Carwyn Davies o Lanwenog, a Geraint Jenkins o Dalybont.
‘Mynd o nerth i nerth’
Bro Ddyfi, Maldwyn, yn ennill ar y ddeuawd ddoniol
Roedd Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn llawn hyd at yr oriau mân gydag ymhell tros 1,000 o bobol yn y neuadd trwy’r dydd a thua 700 o aelodau yn cymryd rhan.
Yn ôl y beirniad cerdd, Rhian Lois, roedd y digwyddiad yn dangos bod y mudiad yn mynd “o nerth i nerth”.
Ac, wrth dalu teyrnged i’r mudiad, fe ddywedodd Llywydd yr Eisteddfod, y diddanwr Ifan Gruffydd, fod popeth a ddigwyddodd iddo ef ym myd adloniant wedi dechrau yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Tregaron.
Fe ddywedodd hefyd ei fod wedi cymryd rhan yn eisteddfod genedlaethol gynta’r mudiad ddiwedd y 70au ac, ar ôl perfformio o flaen cynulleidfa dila, wedi proffwydo mai honno fyddai’r ola’ hefyd.
Cwmtirmynach, Meirionnydd, enillwyr y Cerdd Dant, gydag enillydd y Gadair, Elain Llwyd, yn ail o'r chwith yn y blaen
Rhai o’r enillwyr
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill:
Unawd Sioe Gerdd: Lois Glain Postle, Ynys Môn
Llefaru dan 26 – a thlws y Llefarydd Gorau: Enfys Hatcher, Ceredigion
Sgets – a thlwys y Perfformiwr Mwyaf Addawol i Trystan Jones: Caerwedros, Ceredigion
Deuawd Ddoniol: Bro Ddyfi
Gwennan a Siwan, enillwyr y ddeuawd Eisteddfod CFfI 2014
Deuawd: Gwennan a Siwan, Sir Gâr
Cerdd Dant: Cwmtirmynach, Meirionnydd
Unawd Offerynnol a Thlws yr Unawdydd Gorau: Nest Jenkins, Ceredigion
Parti Unsain: Pontsian, Ceredigion
Cân Bop: Glain Rhys, Meirionnydd
Unawd dan 26: Jessica Robinson, Sir Benfro
Meimio i Gerddoriaeth: Eglwyswrw, Sir Benfro
Ymgom: Ynys Môn
Ifan Gruyffydd - Llywydd yr Eisteddfod - y cyfan wedi dechrau gyda'r CFfI
Safle’r Siroedd
1 Ceredigion
2 Sir Gâr
3 Sir Benfro a Chlwyd
5 Ynys Môn
6 Meirionnydd
7 Maldwyn
8 Eryri
9 Brycheiniog
10 Morgannwg