Dylan Thomas
Mae llyfr nodiadau sy’n cynnwys fersiynau drafft o rai o weithiau Dylan Thomas o ganol y 1930au wedi dod i’r golwg ychydig ar ôl canmlwyddiant geni’r bardd o Abertawe.
Roedd lle i gredu bod y llyfr wedi cael ei losgi ar gais ei fam-yng-nghyfraith. Ond mae’n ymddangos bod gwas wedi cadw’r llyfr yn lle ei losgi.
Dywed cwmni Sotheby’s y gallai’r llyfr werthu am hyd at £150,000 ac mae’n datgelu manylion am berthynas Dylan Thomas ag Yvonne Macnamara, mam ei wraig Caitlin.
Mae’r llyfr yn cynnwys 19 o’i gerddi yn ei lawysgrifen ei hun yr oedd wedi bwriadu eu cyhoeddi, ond nid y fersiwn derfynol a geir bob tro.
Hwn yw pumed llyfr nodiadau Dylan Thomas, ac mae’r pedwar llyfr arall wedi’u cadw ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd.
Mae’r llyfr diweddaraf yn cynnwys fersiynau o ‘Altarwise by Owl-light’ ac ‘I, in my intricate image’.
‘Dychymyg ar waith’
Dywedodd John Goodby, Athro Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe a golygydd cyfrol ‘Collected Poems of Dylan Thomas’ i ddathlu’r canmlwyddiant: “Gallwn weld ei ddychymyg ar waith yn y fersiynau o’r cerddi sydd yn y llyfr nodiadau – a dyna’i wir arwyddocâd i ysgolheigion.
“Roedd e’n fardd gofalus a thrylwyr oedd yn gweithio tan fod popeth yn fanwl gywir ganddo fe.
“Fe wnaeth e gadw’r cerddi, sy’n mynd yn groes i’r ddelwedd ohono fe’n ddiofal, ac mae hynny’n dangos ei fod e’n systematig yn ei agwedd at y cerddi.
“Dyma’r cerddi sy’n mynd agosaf at y swreal, ac yng nghyfnod y 1930au y gwnaeth e ysgrifennu mewn arddull dwys.”