Set SBRI yn Galeri, Caernarfon
Bydd dros 70 o bobol ifanc o Wynedd, Môn a Chonwy yn dod ynghyd i berfformio sioe deulu newydd sbon gan y Frân Wen, SBRI 2! yn GALERI, Caernarfon dros y Nadolig.

Wedi ei hysgrifennu gan y ddigrifwraig Beth Angell a’i chyfarwyddo gan Owain Gethin Davies, bydd y sioe yn cynnwys caneuon poblogaidd Cymraeg gan fandiau megis Candelas, Endaf Emlyn, Edward H, Hergest, Meic Stevens, Big Leaves, Gildas, Sibrydion ac Elin Fflur.

Mae’n cael ei llwyfannu yn dilyn llwyddiant sioe Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri a’r Cyffiniau, 2012.

“Dyma gyfle i ail gyfarfod cymeriadau Sbri, i brofi’r tensiynau sy’n dal i fodoli rhwng y bobl ifanc, y troeon trwstan, y caneuon poblogaidd, i brofi carwriaethau sy’n ffynnu, talentau cudd yn cael eu datgelu, cerddoriaeth yn gorchfygu anawsterau – rhain ydi’r prif themâu,” meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen.

“’Ni yw y byd’ ydi anthem y cynhyrchiad fel y tro diwethaf – dyma brofi ein bod yn llawn gwahaniaethau ond bod modd dathlu hynny ac uno,” meddai.

16 o ganeuon

Ychwanegodd y cyfarwyddwr, Owain Gethin Davies: “Ceir amrywiaeth yn Sbri 2 o un o ganeuon fwyaf adnabyddus Edward H Dafis, ‘Dewch at eich gilydd’, i un o ganeuon Candelas sydd yn amlwg iawn ar y sin roc Gymraeg heddiw, ‘Cofia bo ti’n rhydd’.

“Fe fydd yna wledd o 16 o ganeuon wedi cael eu trefnu gyda band byw o 11 o gerddorion ifanc o’r ardal gyda chanu mewn harmoni pedwar llais.”

Bydd cyfle i weld y cynhyrchiad yn Galeri, Caernarfon ar 15, 16 a 17 Rhagfyr.