Y Parrot
Mae’r ymgyrch i achub y ganolfan gigs yng Nghaerfyrddin, The Parrot, wedi cyrraedd ei nod ariannol ac felly’n debygol o ail-agor.
Cymuned Gerddorol Gorllewin Cymru sydd y tu ôl i’r ymgyrch ac mae’r grŵp – sy’n cynnwys cerddorion, rheolwyr bar a chantorion o’r ardal – yn bwriadu ailagor y safle “a’i wneud hyd yn oed yn well.”
Mae mwy na £10,200 wedi cael ei gasglu mewn tair wythnos a bydd hynny’n cael ei ddefnyddio i brynu system oeri aer, prynu system sain newydd a symud y bar fel bod llwyfan gwell i gerddorion.
Yr wythnos diwethaf, cafodd yr ymgyrch hwb enfawr gan y digrifwr adnabyddus o Gymru, Rhod Gilbert, wnaeth gyfrannu £3,000.
Ond mae’r ymgyrch am godi gymaint o arian ag sy’n bosib ac am barhau tan 21 Tachwedd.
Cefndir
Fe gaeodd Y Parrot ym mis Awst am nad oedd y perchnogion yn medru ei gynnal fel busnes mwyach.
Cyn hynny roedd y bar cerddorol wedi croesawu artistiaid fel Meic Stevens, Cate Le Bon, Gulp, Robin Williamson, Y Ffug a Dave Datblygu, a hefyd yn llwyfan gwerthfawr i gerddorion newydd.
Bwriad yr ymgyrch yw ailagor, gwella a datblygu’r bar ar Stryd y Brenin.