Sengl Tynal Tywyll, 'Mae’r Telyn Wedi Torri'
Mae sengl gan un o’r bandiau indi Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y 1980au wedi mynd ar werth am £235 ar y we.
Mae modd prynu’r finyl ‘Mae’r Telyn Wedi Torri’ a gafodd ei rhyddhau gan Tynal Tywyll yn 1987 oddi ar wefan Discogs.com
Cafodd y sengl ei chynhyrchu ar label Bobby Riggs, sef label y band eu hunain.
Dywedodd yr arbenigwr cerddoriaeth Gari Melville wrth Golwg360 ei fod wedi synnu ynghylch pris y record.
“Dw i ddim yn credu ei fod e werth cymaint â ’ny – mae’n od gweld pris rhywbeth yn mynd lan dyddie ’ma.
“Mae prisiau finyl wedi mynd i lawr ers y dirwasgiad, ond mae pobol o dramor fel arfer yn barod i dalu lot am rai recordiau, yn enwedig pobol o Siapan.
“Mae’n record dda, safonol.”