Bydd Carwyn Jones ar y panel
Bydd rhifyn diweddaraf cyfres Question Time y BBC yn cael ei ddarlledu o Gaerdydd nos fory.

Ymhlith y rhai fydd ar y panel mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams ac Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb ar ran y Ceidwadwyr.

Yn cadw cwmni i’r gwleidyddion fydd y colofnydd Rod Liddle.

Mae’n gyn-olygydd rhaglen Today y BBC, yn ogystal â bod yn olygydd nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys y Spectator.

Yn y gorffennol, fe fu’n ohebydd i’r South Wales Echo a’r Western Mail.

Mae’r rhaglen wedi cael ei beirniadu yn y gorffennol am beidio gwahodd Carwyn Jones i’r rhaglen yn 2010 pan gafodd ei darlledu o Aberhonddu.

Bryd hynny, Diane Abbott oedd yn cynrychioli’r Blaid Lafur, a dywedodd y rhaglen eu bod nhw wedi’i gwahodd hi i ymddangos gan ei bod hi wedi cyflwyno’i henw i fod yn arweinydd y blaid yn ddiweddar.

‘Corddi’r dyfroedd’

Mae cryn dipyn o bobol ar wefannau cymdeithasol wedi beirniadu’r penderfyniad i wahodd Rod Liddle i’r rhaglen.

Ar dudalen Facebook Leanne Wood, dywedodd Aled Williams: “Ro’n i wedi rhoi’r gorau i Question Time – oni bai eich bod wedi gweld y 30 eiliad cyntaf pan maen nhw’n dweud pwy yw pwy, mae’n amhosib gwahaniaethu rhwng pleidiau Llundain. Ond bydda i’n gwylio hwn – ffilu aros!”

Ychwanegodd Craig ab Iago fod y panel “unwaith eto’n cynnwys rhywun â hanes hir o gasáu’r Cymry”.

Dywedodd Matthew Hywel Rees ei fod “mor grac fod y BBC wedi gwahodd Liddle i gorddi’r dyfroedd”.