Warren Clarke
Mae’r actor Warren Clarke, sy’n enwog am ei ran yn nrama dditectif Dalziel And Pascoe, wedi marw yn 67 oed.
Bu farw yn ei gwsg yn dilyn salwch byr, cyhoeddodd ei asiant heddiw.
Yn wreiddiol o Oldham, roedd Warren Clarke hefyd yn cael ei adnabod am ei rannau mewn ffilmiau fel A Clockwork Orange a chyfresi teledu fel Down To Earth a Coronation Street yn y 1960.
Poldark gan y BBC oedd y gyfres olaf iddo ei ffilmio cyn ei farwolaeth, lle’r oedd o’n chwarae rhan Charles Poldark.
Dywedodd datganiad ar ran ei asiant: “Bydd colled fawr ar ei ol ymhlith ei deulu a’i ffrindiau. Ar yr adeg yma, rydym yn gofyn i chi barchu eu preifatrwydd mewn cyfnod o alaru.”