Guto Dafydd a Ceri Wyn Jones Llun: Llenyddiaeth Cymru
Fe fydd enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod Genedlaethol Llanelli ymysg y beirdd fydd yn ymgynnull yn Llanystumdwy ar gyfer “pererindod” Gŵyl Farddoniaeth flynyddol y penwythnos hwn.

Y digwyddiad yn Nhŷ Newydd rhwng 13-15 Tachwedd fydd y cyntaf ers yr eisteddfod i gynnwys y ddau Brifardd yn yr un rhaglen.

Bydd Prifardd y Goron Guto Dafydd yn lansio’i gyfrol gyntaf o gerddi yn ystod yr Ŵyl, a Phrifardd y Gadair Ceri Wyn Jones yn cael ei holi gan Myrddin ap Dafydd am ei awdl fuddugol.

“Mae’r Ŵyl Farddoniaeth bellach wedi ennill ei phlwyf, gyda thaith flynyddol i Lanystumdwy yn prysur droi’n bererindod i feirdd Cymru gyfan,” meddai prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.

“Edrychwn ymlaen at ymuno â’r gymuned leol i estyn croeso i bawb unwaith eto eleni.”

Y rhaglen

Bydd yr Ŵyl Farddoniaeth yn cael ei hagor nos Iau pan fydd Guto Dafydd yn lansio’i gyfrol gyntaf o gerddi, Ni Bia’r Awyr (cyhoeddiadau Barddas), yn Nhafarn y Whitehall ym Mhwllheli.

Ar y dydd Gwener mae Gwyneth Glyn yng ngweithdy ysgrifennu yn Ysgol Gynradd Llanystumdwy, cyn i Westy’r Marine yng Nghricieth weld naw o feirdd a’u cerddi doniol yn dod at ei gilydd fin nos i gystadlu am ffon Pencerdd Tŷ Newydd yn yr Ornest flynyddol.

Drannoeth fe fydd Guto Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis yn arwain taith gerdded yn dilyn trywydd Afon Dwyfor, ac fel rhan o ddathliadau 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia, bydd Rhiannon Marks yn cyflwyno cip ar fywyd a gwaith y llenor o’r Ariannin, Irma Hughes de Jones.

Yn ogystal â hynny, fe fydd sesiynau prynhawn Sadwrn yn cynnwys Myrddin ap Dafydd yn holi Ceri Wyn Jones, a sesiwn arbennig gyda sawl bardd yn trafod eu hoff gerddi gan Gerallt Lloyd Owen.

A hithau’n ganmlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Mawr fe fydd Twm Morys, Myrddin ap Dafydd ac Ifor ap Glyn hefyd yn darllen cymysgedd o farddoniaeth, storïau ac ambell gân i’w goffáu yn Nhafarn y Plu fel rhan o sioe farddol newydd arbennig, Rhyfel Hirddydd Haf.