Mae Rhys Meirion wedi cyfaddef bod marwolaeth ei chwaer ddwy flynedd yn ôl wedi bod yn ergyd fawr iddo – ond bod y brofedigaeth hefyd wedi’i droi’n “berson mwy positif”.

Yn ei hunangofiant Stopio’r Byd Am Funud Fach, a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa’r wythnos hon, mae’r canwr yn agor ei galon am y cyfnod anodd hwnnw’n dilyn marwolaeth Elen ei chwaer mewn damwain drasig.

A dywed hefyd fod y profiad wedi’i argyhoeddi bod bywyd ar ôl marwolaeth.

‘Hunllefus’

Yn yr hunangofiant, mae Rhys Meirion yn ysgrifennu am y cryfder a ddaeth iddo ar ôl y ddamwain, a hynny i ailafael yn ei fywyd ac i ymateb yn gadarnhaol i’r dyfodol.

“Roedd y sefyllfa’n hunllefus, ac roedd derbyn y newyddion, er mor garedig a theimladwy y ceisiai’r doctor ein trin, fel derbyn ergyd gordd yn y stumog,” meddai’r canwr adnabyddus.

“Doedd dim y gallen ni ei wneud. Doedden ni ddim wedi cael ffarwelio â hi, doedden ni ddim wedi cael y cyfle i ddiolch iddi am bob dim.”

Ychydig wythnosau wedi’r trychineb fe ganodd Rhys Meirion mewn cyngerdd yn Eisteddfod yr Urdd, a llun o’r cyngerdd emosiynol hwnnw sydd wedi ei ddefnyddio ar flaen yr hunangofiant.

“Mi ges i gryfder o rywle wrth ganu yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon, pan ges i’r cryfder nid yn unig i ganu ‘Anfonaf Angel’ ond hefyd i’w chyflwyno fel teyrnged i Elen,” esboniodd y tenor.

‘Mwy positif’

Yn y llyfr mae Rhys Meirion yn edrych nôl ar yrfa brysur, o fod yn athro i fod yn ganwr proffesiynol.

Mae bellach yn adnabyddus drwy Gymru fel unawdydd ac fel aelod o Dri Tenor Cymru, gan ganu’r prif rannau mewn operâu a chyngherddau mewn theatrau a neuaddau enwog ar draws y byd.

Ac mae’r canwr nawr yn credu fod y brofedigaeth o golli’i chwaer wedi’i arwain at fod yn berson mwy positif ac ysbrydol.

“Y rhyfeddod ydy ’mod i wedi dod yn berson mwy positif a chryf yn dilyn y profiad,” meddai Rhys Meirion.

“Mae hynny’n swnio’n hollol wallgof ond dwi wedi cael profiadau na alla’i eu hesbonio sydd wedi fy llenwi â gobaith fod yna’r fath beth ag enaid a bod yna fodolaeth yn dilyn marwolaeth.”

Bydd Stopio’r Byd am Funud Fach yn cael ei lansio yng Nghastell Rhuthun nos Fercher, 12 Tachwedd am 7.00yh, yng nghwmni Côr Rhuthun ac Annette Bryn Parri, gyda Nic Parry’n holi Rhys Meirion.