Graham Johnson
Mewn achos llys yn Llundain, mae cyn-newyddiadurwr gyda’r Sunday Mirror wedi cyfaddef hacio negeseuon ffôn actores mewn cyfres sebon.

Roedd Graham Johnson, 46, yn gweithio i’r Sunday Mirror rhwng 1997 a 2005 pan fu iddo hacio ffon er mwyn ymchwilio i honiadau fod yr actores yn cael perthynas yn 2001.

Nid yw hi’n hysbys pwy yw’r actores dan sylw.

Ymddangosodd Graham Johnson yn Llys Ynadon Westminster ar gyhuddiad o glustfeinio ar negeseuon ffôn heb awdurdod cyfreithiol, ond fe ddywedodd nad oedd yn ymwybodol fod hacio ffonau yn drosedd ar y pryd.

Dywedodd ei fod wedi rhoi’r gorau i glustfeinio ar y negeseuon ar ôl wythnos am nad oedd “yn teimlo ei fod yn iawn.”

Roedd wedi mynd at yr heddlu i gyfaddef ei fod wedi hacio ffonau ar ôl i newyddiadurwyr eraill o Mirror Group Newspapers gael eu harestio ynglŷn â’r un drosedd y llynedd.

Dywedodd y barnwr Quentin Purdy wrth Johnson nad oedd gan y llys bwerau digonol i ddelio gyda’r mater ac fe fydd Johnson yn cael ei ddedfrydu yn yr Old Bailey ar 27 Tachwedd.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.