Ni fydd Llywodraeth Prydain yn cynnal arolwg o’r system fenthyciadau myfyrwyr, er bod ASau wedi rhybuddio fod y system “yn y fantol”.

Yn yr haf, fe gyhoeddodd Pwyllgor Busnes Tŷ’r Cyffredin adroddiad yn dweud fod y Llywodraeth wedi cam-gyfrif benthyciadau a bod nifer o broblemau gyda chasglu ad-daliadau.

Ond mewn ymateb heddiw, fe ddywedodd yr Adran Fusnes nad oes cynlluniau i gynnal arolwg.

Mae cadeirydd Pwyllgor Busnes Tŷ’r Cyffredin, Adrian Bailey, wedi dweud fod y penderfyniad yn un “dychrynllyd”.

Ffigyrau

Fe all myfyrwyr ymgeisio am fenthyciad gan y Llywodraeth i dalu eu costau prifysgol, gyda disgwyl iddyn nhw ad-dalu’r arian unwaith y maen nhw’n dechrau ennill cyflog o dros £21,000 y flwyddyn. Mae benthyciad yn cael ei ganslo ar ôl 30 mlynedd.

Dangosodd ffigyrau diweddar na fydd 45% o’r benthyciadau yn cael eu talu yn ôl.

O ganlyniad fe ddywedodd y Pwyllgor nad yw’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn “gwneud ei waith yn gywir” a bod gan yr Adran Fusnes “hanes pryderus” o gam-gyfrif faint o arian fydd yn cael ei ad-dalu.

“Mae amcangyfrif y Llywodraeth yn dangos y bydd y ddyled o fenthyciadau myfyrwyr yn codi i dros £330 biliwn erbyn 204,” meddai Adrian Bailey.

“Byddai adolygiad wedi cynnig cyfle i asesu’r system bresennol cyn i ni gwympo yn ddall i system fenthyciadau sy’n cael ei than-gyllido, ac a fyddai’n cynnig bargen wael i fyfyrwyr, prifysgolion a threthdalwyr.”