Ray Teret
Mae’r cyn-DJ a chyflwynydd radio, Ray Teret wedi dweud bod honiadau ei fod e wedi cynnal partïon rhyw gyda merched dan 16 oed yn “wallgo’”.

Mae Teret, 73, wedi’i gyhuddo o dreisio merch 15 oed gyda Jimmy Savile, ac o gam-drin 17 o ferched yn rhywiol dros gyfnod o bedwar degawd o 1962 ymlaen.

Dywedodd wrth Lys y Goron Manceinion na fyddai wedi gwneud unrhyw beth i beryglu ei yrfa.

Dywedodd un o’r merched bod Teret wedi cael rhyw â hi pan oedd hi’n 12 neu 13 oed ddechrau’r 1970au.

Clywodd y llys fod Teret wedi’i hannog i ddod â ffrindiau gyda hi i’w fflat uwch ben siop gerddoriaeth ym Manceinion.

Mae Teret yn gwadu ei fod e’n adnabod y merched sydd wedi gwneud y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Dywedodd mai’r unig ferched oedd yn mynd i’w fflat yn y 1970au oedd ei gariadon.

Dywedodd merch arall fod Teret wedi’i threisio ganol y 1990au wedi iddi ateb hysbyseb mewn cylchgrawn oedd yn chwilio am gantores bop ifanc.

Symudodd y ferch i mewn i’w fflat yn Altrincham tra bo’r ddau yn cydweithio ar ganeuon newydd i’w hanfon at labeli recordio.

Clywodd y llys fod Teret wedi rhoi gwin iddi a’i fod wedi cael rhyw â hi pan oedd hi’n feddw.

Cyfaddefodd Teret eu bod nhw wedi cael rhyw, ond nad oedd e wedi’i threisio.

Clywodd y llys heddiw fod Teret wedi’i garcharu yn 1999 am gael rhyw yn anghyfreithlon â merch dan 16 oed.

Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae’r achos yn parhau.