Ed Balls
Mae Ed Balls wedi gwadu adroddiadau am gynllwyn i geisio disodli arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, gan ddweud bod yr honiadau’n “nonsens”.

Neithiwr, cafodd cabinet cysgodol y blaid ei ad-drefnu gyda Balls bellach yn gyfrifol am yr ymdrechion ar lawr gwlad i ennill yr etholiad cyffredinol yn 2015.

Cafodd yr ad-drefnu ei gynnal wrth i adroddiadau awgrymu bod y meinciau cefn yn ceisio tanseilio grym Ed Miliband mewn llythyr yn galw ar yr arweinydd i ymddiswyddo er lles y blaid.

Ond mae Ed Balls yn mynnu bod y blaid yn unedig wrth ganolbwyntio ar yr etholiad cyffredinol.

Aeth Miliband a Balls benben ar gyfer arweinyddiaeth y blaid yn 2010.

Ad-drefnu

Fel rhan o’r ad-drefnu, Lucy Powell fydd is-gadeirydd yr ymgyrch etholiadol, gan fynnu bod angen “egni newydd” ar y blaid.

Roedd Powell yn gyfrifol am arwain ymgyrch arweinyddiaeth Miliband, ac mae’n disodli Jim Murphy yn dilyn ei ymddiswyddiad i ganolbwyntio ar ymgyrch arweinyddiaeth y blaid yn yr Alban.

Bydd Douglas Alexander yn parhau i fod yn gyfrifol am strategaeth etholiadol.

Mae Michael Dugher wedi’i ddyrchafu i fod yn gyfrifol am drafnidiaeth, tra bod ei ragflaenydd Mary Creagh bellach yn gyfrifol am ddatblygiad rhyngwladol.

Mae Jon Trickett wedi’i benodi’n uwch ymgynghorydd, tra bod Alison McGovern yn derbyn cyfrifoldeb am blant yn lle Lucy Powell.

Bydd Anas Sarwar, sydd wedi ymddiswyddo fel dirprwy arweinydd y blaid yn Yr Alban, bellach yn cynorthwyo ym mhortffolio datblygiad rhyngwladol.