Y ddelw o Alex Salmond
Mae Heddlu Swydd Sussex wedi derbyn cwyn ynghylch delw o Alex Salmond a oedd i fod i gael ei llosgi fel rhan o ddathliadau Noson Guto Ffowc neithiwr.
Cafodd y ddelw ei chreu yn nhref Waterloo i gael ei losgi yn Lewes fel rhan o ddigwyddiad blynyddol Cymdeithas Coelcerthi Waterloo, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant eleni.
Cafodd llun o’r ddelw ei gyhoeddi ar wefannau cymdeithasol y Cyngor Sir brynhawn ddoe i hysbysebu’r digwyddiad, er bod y cyngor yn pwysleisio nad nhw oedd wedi trefnu’r digwyddiad.
Ond penderfynwyd yn dilyn protest na fyddai’r ddelw yn cael ei llosgi wedi’r cyfan.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Swydd Sussex: “Tra ein bod ni’n cydnabod fod traddodiad hir o losgi delwau o enwogion o feysydd gwleidyddiaeth, chwaraeon, y cyfryngau a.y.b., rydym wedi derbyn cwyn ac fe fyddwn yn cynnal ymchwiliad.”
Mae neges ar wefan Cymdeithas Coelcerthi Waterloo yn dweud bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y safle ar hyn o bryd.