Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain geisio sicrwydd gan gwmnïau petrol ac archfarchnadoedd y bydd prisiau petrol yn gostwng i gwsmeriaid o ganlyniad i ostyngiad mewn pris olew crai.

Bydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander yn galw arnyn nhw i sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad yw modurwyr yn dioddef yn sgil prisiau uchel.

Mewn araith yn Aberdeen, fe fydd Danny Alexander yn rhybuddio bod gan gwsmeriaid yr hawl i fod yn grac pe na bai’r prisiau’n gostwng yn ôl eu disgwyliadau.

Mae disgwyl iddo ddweud bod cwsmeriaid yn teimlo’r cynnydd mewn prisiau olew, yn ogystal â chwymp sydyn wrth i brisiau ostwng.

Ychwanegodd y bu ymchwiliad i’r amrywiaeth mewn prisiau yn y gorffennol ond na chafwyd atebion derbyniol a digonol i’r sefyllfa.

Mae Danny Alexander wedi addo cysylltu â’r diwydiant i geisio sicrwydd y byddan nhw’n sicrhau bod cwsmeriaid yn elwa o ostyngiadau “cyn gynted â phosib”.

Mae’r grŵp lobïo FairFuelUK wedi galw am ymchwiliad, yn ogystal â gostyngiad o 3c yn y dreth ar danwydd.

Mae Sefydliad yr RAC wedi cyhuddo Danny Alexander o fethu â gweithredu hyd yn hyn, gan ychwanegu bod trethi’n cyfrif am 60% o bris petrol.

Mae’r AA wedi ategu sylwadau’r RAC.