Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi galw am ragor o eglurder a sail resymegol gliriach ynghylch lefelau cyflogau uwch reolwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cynnal ymchwiliad i gyflogau uwch reolwyr, gan nodi yn eu hadroddiad y dylai Llywodraeth Cymru gynnig diffiniad clir o’r hyn yw swyddi uwch o fewn y sector.

Dywed cadeirydd y pwyllgor, Darren Millar fod anghysondebau ar draws y sector cyhoeddus.

Mewn datganiad, dywedodd: “Roeddem yn pryderu am y canfyddiadau hyn, gan ei bod yn hanfodol, yn ein barn ni, bod y wybodaeth am lefelau cyflogau uwch-swyddogion yn y sector cyhoeddus yn glir ac yn hygyrch i’r cyhoedd.

“Bydd hynny’n ei gwneud yn bosibl cynnal gwaith craffu effeithiol a chael trafodaeth ddeallus a hyddysg am gyflogau uwch reolwyr.

“Er mwyn mynd i’r afael â’n pryderon, rydym yn cynnig cyfres o argymhellion sydd â’r nod o ddileu’r anghysondebau o ran adrodd a sicrhau atebolrwydd i drethdalwyr.”

“Cysoni’r drefn o adrodd ar gyflogau uwch reolwyr” yw nod yr argymhellion, yn ôl Darren Millar, ac maen nhw’n cynnwys:

• bod diffiniad clir o’r hyn a olygir gan swydd uwch yn y sector cyhoeddus yn cael ei lunio a’i ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru.
• bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei gwaith yn ad-drefnu llywodraeth leol i ystyried yr opsiynau ar gyfer cyflwyno mwy o gysondeb o ran cyflogau uwch reolwyr mewn Llywodraeth Leol.
• bod Llywodraeth Cymru yn llunio a chyhoeddi geirfa mewn perthynas â chyflogau uwch reolwyr, sy’n nodi’r termau mwyaf priodol i’w defnyddio mewn datgeliadau cyflog, ynghyd ag esboniadau ar gyfer termau a ddefnyddir yn llai aml.
• bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod eitemau sy’n ymwneud â materion cyflog yn cael eu rhestru’n glir ac ar wahân ar bob agenda.
• bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfansoddiad a threfn recriwtio Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, wrth i swyddi ddod ar gael, i sicrhau ei fod yn cynrychioli cymdeithas sifil ehangach.

‘Tryloyw’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Ramsay: “Bod yn agored a thryloyw yw’r unig ddull o atal twyll, drwgweithredu a gwariant gwastraffus gan gyrff sy’n gyfrifol am wario arian trethdalwyr.

“Am lawer rhy hir, mae cyflogau uwch reolwyr mewn awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill wedi’u cuddio yn sgil cyfrinachedd, gan arwain at daliadau anghyfreithlon yn cael eu gwneud a chodiadau cyflog swmpus ar draul y rhai sy’n derbyn llai o gyflog.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhelliad i gyflwyno tryloywder ac atebolrwydd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn rhoi hyder i drethdalwyr fod yr holl weithwyr yn y sector cyhoeddus yn derbyn taliadau teg a chymesur.”