Mae cwmni archfarchnad Morrisons wedi datgelu gostyngiad mawr arall mewn gwerthiant wrth iddo geisio mynd i’r afael a chystadleuaeth frwd o fewn y sector.
Wrth gyhoeddi gostyngiad o 6.3% mewn gwerthiant yn y 13 wythnos hyd at 2 Tachwedd, mae’r busnes wedi cyfaddef y bydd yn cymryd amser i’r sefyllfa wella.
Roedd y ffigwr yn well na’r cwymp o 7.4% yn y chwe mis blaenorol, tra bod y prif weithredwr Dalton Philips yn dweud ei fod wedi ei galonogi gan lwyddiant mesurau i geisio helpu’r cwmni i adennill ei le yn y sector.
Ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Morrisons gynllun ehangach i fuddsoddi £1 biliwn i gyflwyno prisiau rhatach dros y tair blynedd nesaf er mwyn cystadlu gydag Aldi a Lidl.