Phil Rudd yn gadael llys yn Seland Newydd
Mae drymiwr y band AC/DC, Phil Rudd wedi cael ei gyhuddo o geisio trefnu llofruddiaeth dau o bobol yn Seland Newydd.
Ymddangosodd Rudd, 60, gerbron llys yn Tauranga a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae Rudd, sy’n hanu o Awstralia, hefyd wedi’i gyhuddo o fygwth lladd ac o fod â chyffuriau yn ei feddiant.
Mae disgwyl i Rudd ymddangos gerbron y llys unwaith eto ar Dachwedd 27.
Yn ôl adroddiadau’r wasg leol yn Seland Newydd, cafodd Rudd ei gyhuddo o gyflogi rhywun i ladd y ddau.
Roedd disgwyl i AC/DC ryddhau albwm newydd fis nesaf, yn ogystal â threfnu taith fyd-eang y flwyddyn nesaf. Nid yw’n glir ar hyn o bryd a fydd y datblygiadau diweddaraf yn effeithio’r trefniadau hynny.
Ymunodd Rudd â’r band yn 1974, gan symud i Seland Newydd yn 1983 wedi iddo adael y band.
Ail-ymunodd â’r band yn 1994 ond arosodd yn Seland Newydd, lle prynodd fwyty.