Bydd cynllun pedair blynedd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw a fydd yn helpu cleifion i dderbyn mwy o ofal yn y gymuned yn agosach at eu cartrefi.

Fel rhan o’r cynllun sy’n cael ei lansio gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, bydd yr holl sefydliadau a gwasanaethau cymunedol yn cael eu tynnu ynghyd i wella ansawdd gofal yn y cartref neu’r gymuned.

Bydd cronfa gwerth £10 miliwn yn hwyluso’r cynllun – sydd dair gwaith yn fwy na’r buddsoddiad mewn gofal sylfaenol sy’n helpu cleifion sy’n wynebu’r risg o glefyd y galon mewn ardaloedd difreintiedig, hyfforddi gweithlu gofal sylfaenol helaethach a darparu gofal llygaid yn agosach i’r cartref.

‘Heriau iechyd sylweddol’

Mewn datganiad, dywedodd Vaughan Gething: “Bydd y cynllun pedair blynedd newydd hwn yn helpu i sicrhau a gwella gwasanaethau gofal sylfaenol ar draws Cymru, gan sicrhau mai gofal sylfaenol yw pwerdy Gwasanaeth Iechyd (GIG) Cymru.

“Ein nod yw gwella’r ansawdd a’r mynediad at ofal sylfaenol, gan alluogi mwy o bobl i gael triniaeth a gofal yn agosach i’w cartrefi; helpu pobl i ofalu amdanynt eu hunain ac yn y pen draw osgoi anfon pobl yn ddiangen ac yn amhriodol i’r ysbyty os yw hynny’n bosibl.

“Mae gofal sylfaenol yn faes lle gallwn wneud yr effaith fwyaf o ran mynd i’r afael â’r heriau iechyd sylweddol sy’n ein hwynebu ni fel cenedl.”

Bydd y cynllun hefyd yn golygu na fydd gofyn i gleifion fynd i’r ysbyty’n ddiangen ac fe fydd yn helpu cleifion sy’n gorfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty i fynd adref yn gynt.

Bydd cleifion â chyflyrau cronig yn cael eu hannog i reoli eu hiechyd gartref.

Mae rhai o’r mesurau eraill o dan y cynllun yn cynnwys:
• Cynllunio a darparu gofal iechyd yn lleol – asesiad, triniaeth a gofal parhaus ar gael yng nghartrefi pobl neu mor agos i gartrefi pobl â phosibl, gyda mynediad cyflym a mwy lleol i gyngor clinigol mwy arbenigol;
• Gwella mynediad i wasanaethau – mwy o ddefnydd o dechnoleg fodern a gwybodaeth, cyngor a chymorth gwell i gefnogi hunanofal a gofal effeithiol gan ystod eang o’r gweithwyr iechyd proffesiynol cywir, gan gynnwys fferyllwyr a nyrsys, ar yr un diwrnod, wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost, negeseuon gwib neu fideo;
• Gwella ansawdd gwasanaethau – er mwyn cefnogi gwell iechyd a hunanofal, bydd mwy o gyd-gynhyrchu gofal, mwy o dimau integredig o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn gweithio o amgylch yr unigolyn, sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu ystod ehangach o ofal mwy personol, gan weithredu ar adborth profiad y claf ac adolygu gan gymheiriaid;
• Mynediad teg – mynd i’r afael ag effeithiau tlodi drwy gynllunio a darparu gofal sy’n gymesur â’r angen i gau’r bwlch o ran canlyniadau iechyd – megis pwysau geni isel a disgwyliad oes – rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig, yn ogystal â chynyddu’r gofal sydd ar gael drwy’r iaith Gymraeg;
• Gweithlu lleol medrus – datblygiad cynllun cenedlaethol i ddatblygu gweithlu gofal sylfaenol sydd wedi’i ailfodelu ac sy’n cydweithio i ddarparu gofal sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o’r angen a’r niferoedd a’r cymysgedd o sgiliau sydd eu hangen;
• Arweinyddiaeth gadarn – rhaglen waith ‘unwaith ar gyfer Cymru’ i gefnogi gweithredu lleol a phenodi arweinydd proffesiynol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol.