Mae cyn gynorthwyydd personol i Ddug Caeredin wedi pledio’n ddieuog i bedwar cyhuddiad o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn merch ifanc.
Mae Benjamin Herman, 79, o Hook yn Hampshire wedi ei gyhuddo o dri achos o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 13 oed yn y 70au cynnar pan oedd yn gwasanaethu’r Tywysog Philip.
Mae Herman hefyd wedi’i gyhuddo o un achos o anwedduster gyda phlentyn sy’n ymwneud a honiad ei fod wedi annog y ferch i gyflawni gweithred o anwedduster dybryd rhwng mis Ionawr 1972 ac Ionawr 1974.
Yn Llys y Goron Kingston heddiw fe blediodd yn ddieuog i’r pedwar cyhuddiad.
Mae’r Barnwr Georgina Kent wedi pennu dyddiad ar gyfer yr achos ar 18 Mai’r flwyddyn nesaf. Mae disgwyl i’r achos barhau am bythefnos.
Honnir bod yr ymosodiadau honedig wedi digwydd mewn tŷ yn ne orllewin Llundain a oedd yn cael ei ddefnyddio gan aelodau o’r fyddin a lle’r oedd Herman yn byw ar y pryd.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.