Mae’r Cynulliad wedi cyflwyno mesurau newydd sy’n golygu nad ydyn nhw’n gwerthu alcohol cyn 6 o’r gloch y nos.
Dydy’r penderfyniad ddim yn un poblogaidd ymhlith holl Aelodau’r Cynulliad, gyda rhai yn dadlau ei fod yn groes i hawliau dynol.
Cafodd Aelodau’r Cynulliad wybod am y mesurau newydd mewn llythyr gan y Prif Weithredwr, Claire Clancy.
‘Penderfyniadau pwysig’
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad: “Rydym yn ei chael yn anodd deall ar adeg pan fo Cymru a’r Cynulliad yn wynebu cymaint o faterion difrifol, pam fod hyn wedi dod yn destun sylw.
“Fel lleoliad mawr ar gyfer digwyddiadau Cymreig, mae gan adeiladau Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwydded.
“Fel sy’n wir am y rhan fwyaf o sefydliadau lle mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud, ac yn dilyn trafodaethau ag arweinwyr yr holl bleidiau, dydyn ni ddim bellach yn caniatáu i ddeiliaid ein trwydded i weini alcohol cyn 6yh yn ystod yr wythnos waith.”
‘Rhy brysur’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ar Twitter dywedodd Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, nad oedd erioed wedi yfed alcohol amser cinio a’i bod yn rhy brysur gyda’i gwaith i wneud hynny.
Beth yw’ch barn chi? A yw’r Cynulliad yn iawn i beidio â chaniatau alcohol i gael ei werthu cyn 6.00yh, er mwyn iddo beidio ag amharu ar bobl yn ystod oriau gwaith?
Neu a yw’n groes i hawliau dynol fel yr awgryma rhai, ac yn ddiangen o gofio bod llawer o dderbyniadau yn ystod y dydd, sydd yn gyffredin mewn sefydliadau gwleidyddol, yn gweini rhywfaint o alcohol?