Mae gwasanaeth newydd i gynyddu nifer y bobol sydd ar gael i fabwysiadu plant yng Nghymru’n cael ei lansio heddiw.
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn lansio’r gwasanaeth sy’n cynnwys sefydlu cronfa o fabwysiadwyr ac sy’n sicrhau bod cymorth ôl-fabwysiadu o ansawdd da ar gael.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei arwain gan lywodraeth leol mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol, ac mae’n rhan allweddol o ddarpariaeth Llywodraeth Cymru o wasanaethau cymdeithasol.
Bydd y drefn newydd yn gwella’r modd y mae hyfforddiant, asesiadau a chefnogaeth yn cael eu darparu, yn ogystal â’r ffordd y caiff plant eu paru â theuluoedd.
O dan y drefn newydd, bydd awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu rhai gwasanaethau mabwysiadu, ond fe fydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei gwblhau gan bump o gydweithredfeydd rhanbarthol.
Cofrestr Fabwysiadu
Bydd Cofrestr Fabwysiadu yn cael ei chyflwyno a’i gweithredu gan BAAF Cymru er mwyn paru plant a mabwysiadwyr yn gyflym er mwyn sicrhau nad oes oedi yn y broses.
Ar hyn o bryd, mae 139 o blant ar gofrestr fabwysiadu Cymru yn aros i gael eu paru â theulu.
Er bod Cofrestr Fabwysiadu Cymru yn cyfeirio at 58 o fabwysiadwyr, dim ond 22 sydd ar gael ar gyfer y plant hyn, gan fod nifer ohonynt eisoes yng nghanol y broses baru.
‘Newid go iawn i blant’
Mewn datganiad, dywedodd Carwyn Jones: “Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu cartref da, teulu cariadus ac amgylchedd sy’n caniatáu iddynt gyflawni eu llawn botensial.
“Mae lansio Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn newid mawr yn y ffordd y caiff gwasanaethau o’r fath eu darparu.
“Heddiw, rydyn ni’n sicrhau newid go iawn i blant a darpar rieni mabwysiadu yng Nghymru.”
‘Niwed parhaol’
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: “Mae posibilrwydd y gallai oedi yn y system fabwysiadu achosi niwed parhaol i blant, gan ddwyn y cyfle gorau iddynt gael teulu cariadus a sefydlog.
“Rydyn ni i gyd yn gwrthod derbyn bod plant yn cael eu colli yn y system ofal a dwi’n disgwyl gweld cynnydd dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol godi safonau a pherfformiad.”
Ymateb
Ychwanegodd llefarydd llywodraeth leol, y Cynghorydd Mel Nott fod y gwasanaeth newydd “yn arwydd o ymrwymiad llywodraeth leol i gynnig y dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn”.
Dywedodd Wendy Keidan, Cyfarwyddwr BAAF Cymru: “Mae’r pum Asiantaeth Mabwysiadu Gwirfoddol yng Nghymru yn falch o gydweithredu gyda’n cyfeillion yn y sector statudol, addysg ac iechyd, a byddwn yn rhannu ein harbenigedd unigryw ym maes mabwysiadu i gyflawni gyda’n gilydd yr amcanion uchelgeisiol sydd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
“Drwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn tynnu ar arfer gorau, yn mynd i’r afael â meysydd i’w gwella ac yn hollbwysig yn creu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion oes y rheini y mae mabwysiadu yn effeithio arnyn nhw – dyw plant ddim yn haeddu dim llai.”