Benedict Cumberbatch
Mae’r actor Benedict Cumberbatch wedi cyhoeddi ei fod wedi dyweddïo.

Mae seren y gyfres Sherlock wedi dyweddïo a’r gyfarwyddwraig theatr Sophie Hunter.

Fe wnaed y cyhoeddiad ym mhapur newydd The Times.

Mae Cumberbatch, 38, yn un o’r actorion Prydeinig mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd ac mae ’na ddarogan y gall gael ei enwebu am Oscar am ei rôl yn chwarae Alan Turing yn y ffilm The Imitation Game.

Mae ganddo lu o ffans, marched yn bennaf, sy’n galw eu hunain yn ‘Cumberbitches.’

Yn ôl adroddiadau roedd wedi mynd i Gaeredin fis diwethaf er mwyn cael sêl bendith mam Sophie Hunter i’w priodas.