Aneirin Karadog
Fe allai Bardd Plant Cymru gystadlu dros y Swistir yng nghystadleuaeth ganu’r Eurovision y flwyddyn nesaf, ar ôl iddo gyflwyno cân ar gyfer pleidlais agored.
Un o’r caneuon y bydd modd pleidleisio drosti er mwyn dewis cân y Swistir ar gyfer y gystadleuaeth fydd J’aime que tu me detestes, gan Aneirin Karadog.
Mae’r gân, gydag enw sydd yn cyfieithu’n fras i ‘Fi’n caru’r ffaith dy fod ti’n fy nghasáu’, yn cael ei chanu a rapio gan Karadog ei hun.
Cafodd y gân ei chyflwyno o dan enw grŵp ‘Swiss Valley’, gyda’r cyflwynydd radio Glenn Bartlett a Chris Josey, sydd yn rhan o brosiect Datgyfodiad gyda Karadog, yn ei gynorthwyo gyda’r trac.
“Cân dawns Ffrangeg yw hi – Glenn ddaeth lan gyda’r syniad, ma’ fe’n obsessed gyda phopeth i neud gyda’r Eurovision!” esboniodd Aneirin Karadog wrth golwg360.
“Fe wnaethon ni alw’r grŵp yn Swiss Valley ar ôl ardal o Lanelli sy’n rhannu’r un enw.”
‘Dim Prydain’
Mae’r gân nawr wedi cael ei chynnwys ar restr hir, a phleidlais ar agor nes 17 Tachwedd i’r cyhoedd gael dewis eu ffefryn.
210 o ganeuon sydd ar y rhestr hir, ac fe fydd pleidlais beirniaid penodol hefyd werth 50%.
Petai cân Swiss Valley’n mynd drwy’r rownd gyntaf o bleidleisiau yna fe fyddai Aneirin Karadog yn cael gwahoddiad i berfformio’r gân yn y Swistir ym mis Rhagfyr.
Ac mae’r bardd yn hyderus fod eu cân nhw yn well na rhai o’r lleill sydd wedi’u cynnig.
“Mae ‘na lawer ohonyn nhw’n ofnadwy!” meddai Karadog. “Bach o hwyl yw e i ni, ond tase na wyrth yn digwydd a’n bod ni’n mynd drwyddo, bydden ni’n taflu popeth ato fe.”
Yn ogystal â’i ddawn gerddorol a barddonol mae Aneirin Karadog yn siarad nifer o ieithoedd, gan gynnwys Llydaweg a Ffrangeg – ond pam mynd ati i geisio cynrychioli’r Swistir yn y Eurovision?
“Bydden i byth yn dychmygu gallu cynrychioli Prydain am resymau gwladgarol, achos fydden i ddim yn cynrychioli Cymru,” mynnodd y Bardd Plant. “Felly fe aethon ni am wlad niwtral!”
Mae modd gwrando a phleidleisio i gân Swiss Valley drwy ddilyn y linc yma: http://esc.srf.ch/de/swiss-valley.