Canolfan Pontio
Mae Prifysgol Bangor wedi gwadu yn chwyrn honiadau eu bod yn gwybod na fyddai canolfan artistig Pontio wedi ei orffen mewn pryd cyn i’r cynhyrchiad agoriadol gael ei lwyfannu.
Ar wefan BBC Cymru Fyw’r bore ‘ma, cyhoeddwyd stori oedd yn honni bod Pontio yn gwybod chwe mis cyn canslo’r cynhyrchiad ‘Chwalfa’ na fyddai’r adeiladwyr yn medru gorffen y gwaith mewn pryd.
Ond ar raglen y Post Prynhawn heddiw, fe wnaeth Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Jerry Hunter, gyhuddo’r BBC o “gam-arwain pobol Cymru” a “cham gyflwyno’r ffeithiau” am eu bod wedi dyfynnu o hen ddogfennau risg y brifysgol.
“Mae’r BBC wedi creu sgandal allan o hen ddogfennau,” meddai Jerry Hunter gan ychwanegu bod unrhyw brosiect mawr yn “risg uchel o’r cam cyntaf”.
Costau cynyddol
Nid oedd y Dirprwy Is-ganghellor yn medru cadarnhau pryd fydd dyddiad agoriadol newydd y ganolfan ond fe ddywedodd bod disgwyl i’r gost gynyddu o £37 miliwn i tua £49 miliwn.
Mae’r Brifysgol wedi ceisio lleddfu pryderon y gallai’r gost effeithio swyddi ac addysg myfyrwyr.
Mewn datganiad dywedodd y Brifysgol: “Mae’r Brifysgol wedi sicrhau £32m mewn cyllid allanol ar gyfer Pontio, gyda’r gweddill yn dod o’n cyllideb gyfalaf. Ni fydd ein cyllideb refeniw yn cael eu heffeithio gan y costau adeiladu, felly ni fydd unrhyw doriadau o ganlyniad i’r adeiladu.”
Ychwanegodd y datganiad: “Mae’r Brifysgol wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â’r contractwr ac maent yn gyson o’r farn bod yr amserlen yn gyraeddadwy. Felly, roedd yn rhaid i’r Brifysgol roi pob cyfle i Miller gyflawni eu haddewid i gwblhau mewn pryd.
“Ond pan ddaeth yn amlwg nad oedd hi’n debygol y byddai’r gwaith yn cael ei gyflawni, camodd y Brifysgol i mewn a chymryd y penderfyniad i ohirio’r agoriad.”
Yn y cyfamser mae cyn weinidog diwylliant Llywodraeth Cymru, Alun Pugh, wedi galw am ymchwiliad i’r modd mae’r brifysgol wedi delio a’r prosiect.