Lynda Bellingham
Mae rhai o sêr y byd adloniant wedi dod ynghyd heddiw ar gyfer angladd yr actores Lynda Bellingham.

Bu farw’r actores o ganser y coluddyn fis diwethaf yn 66 oed.

Mae ei hangladd yn cael ei gynnal yn Eglwys San Bartholomew yn Crewkerne, Gwlad yr Haf.

Ymhlith y galarwyr mae Coleen Nolan, Jane McDonald, Andrea McLeane, Kate Thornton, a Julia Sawalha, fu’n cyd-gyflwyno’r rhaglen Loose Women gyda Lynda Bellingham, ynghyd ag actores Coronation Street Helen Worth, Robert Lindsay, Giles Brandreth a Julian Fellowes.

Roedd Lynda Bellingham yn fwyaf adnabyddus am ei rhan yn yr hysbyseb Oxo yn yr 80au. Mae Michael Redfern, fu’n chwarae ei gwr yn yr hysbyseb, yn yr angladd heddiw.