Nancy y landledi, (Christine Pritchard) yng nghyfres Cara Fi
Pentref llawn dynion yw lleoliad cyfres ddrama gomedi newydd ar S4C sydd yn ymdrin â’r pryder am ddyfodol cymunedau gwledig yng Nghymru.

Fe fydd cyfres Cara Fi yn dilyn hynt a helynt trigolion Tretarw, pentref dychmygol yng ngorllewin Cymru, ble mae’r merched yn brin a’r dynion yn ysu am gariad.

Yn ôl comisiynydd cyfres Cara Fi mae’n ddrama digon ysgafn a hwyliog, ond gyda neges ddifrifol iddi hefyd.

“Mae’r cynnwys yn rhamantus ac yn twymo’r galon,” meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C. “Ond mae’r cyd-destun yn reit ddifrifol.

“Yn anffodus mae sefyllfa Tretarw yn un sy’n or-gyfarwydd ar hyd a lled Cymru.”

Hysbysebu ar laeth

Mewn ymdrech i achub y pentref, mae landledi’r dafarn leol, Nancy, yn penderfynu hysbysebu dynion sengl Tretarw ar gartonau llaeth, a bob wythnos daw merch newydd i’r pentref i chwilio am gariad.

Ym mhennod gyntaf y gyfres mae Nancy, sy’n cael ei chwarae gan yr actores Christine Pritchard, yn annerch y dafarn o ddynion i beidio â digalonni am eu dyfodol.

Mae’r pentref eisoes wedi colli neuadd, cigydd, a swyddfa bost, gyda’r ysgol leol hefyd mewn perygl – a’r ffatri laeth a’r dafarn yw’r unig fusnesau ar ôl.

“Ydy, mae’n sefyllfa drist ac mae’n sefyllfa real mewn nifer o lefydd yng Nghymru,” meddai Gwawr Lloyd. “Ond mae Nancy a thrigolion Tretarw yn penderfynu mynd i’r afael â’r sefyllfa, a cheisio gwarchod dyfodol y pentref.

“Yng ngeiriau Nancy, nid angladd yw hi, ond galwad i’r gad!”

Fe fydd Cara Fi yn dechrau ar S4C nos Sul 9 Tachwedd am 9yh.