Acker Bilk yn 1967
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r clarinetydd a’r canwr Acker Bilk sydd wedi marw yn 85 oed.
Bu farw’r perfformiwr jazz, sy’n fwyaf adnabyddus am ei gân Stranger On The Shore, bnawn ddoe mewn ysbyty yng Nghaerfaddon.
Acker Bilk oedd y perfformiwr cyntaf o’r DU i gyrraedd brig y siartiau yn yr Unol Daleithiau yn y 60au.
Yn 2013, bu’n perfformio yng ngŵyl gerddoriaeth jazz Aberhonddu.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei reolwr Pamela Sutton, ei fod yn “gerddor arbennig.”
Roedd wedi dioddef o ganser y gwddf yn y gorffennol.
Bu farw yn yr ysbyty yng nghwmni ei wraig Jean. Roedd ganddyn nhw ddau o blant, Peter a Jenny.