Ar drothwy rhyddhau eu EP cyntaf, Colli Cwsg, fe fydd band Yr Eira’n chwarae tair gig fel rhan o daith Dathlu 10 cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar.

Fe fydd y band, a ddaeth i amlygrwydd yn 2013, yn perfformio heno yn y gig Dathlu 10 cyntaf yn Neuadd Fawr Aberystwyth.

Ac mae unrhyw un sydd yn mynd i’r gig Calan Gaeaf heno yn Aberystwyth mewn gwisg ffansi o thema Gymreig yn cael bag o nwyddau arbennig, gan gynnwys côd i lawrlwytho ‘Trysor’ gan Yr Eira am ddim.

Dyma ragflas byr o’r gân:

Pum cân sydd ar EP newydd Yr Eira, fydd ar gael ar-lein ac mewn siopau ar hyd a lled Cymru ddydd Llun.

Yn ogystal â rhyddhau Colli Cwsg, fe fydd y band hefyd yn chwarae mewn dwy gig arall Dathlu 10 Y Selar yr wythnos nesaf, yn nhafarn Rascals ym Mangor ar y seithfed o Dachwedd ac yna Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ar yr wythfed.

Mae Yr Eira, sydd wedi’u harwyddo i label I KA CHING, wedi datblygu i fod yn un o fandiau mwyaf cyffrous y sîn roc Gymraeg yn ddiweddar gyda senglau fel ‘Elin’, ‘Ymollwng’ ac ‘Yr Euog’.

Yn ogystal a’r Eira fe fydd Sŵnami, Estrons, Ysgol Sul a Sgilti’n chwarae yn y gig heno yn Aberystwyth.

Mae’r Estrons yn fand newydd o Gaerdydd, ac maen nhw hefyd wedi rhannu rhagflas o’u sengl newydd nhw, ‘C-C-CARIAD’,  gyda ni ar golwg360: