Mae’r ymgyrch i ail-agor bar cerddoriaeth Y Parrot yng Nghaerfyrddin wedi derbyn hwb aruthrol ar ôl i roddwr anhysbys gyfrannu £3000.

O fewn wythnos, mae’r ymgyrch wedi casglu dros £5,000 gan y cyhoedd – sef hanner eu targed o £10,000 – ac mae’r ymgyrchwyr yn “hyderus” y bydd y bar yn ail-agor.

Criw o’r enw ‘Cymuned Gerddorol Gorllewin Cymru’ sydd y tu ôl i’r ymgyrch a’r bwriad yw ail-agor, gwella a datblygu’r bar ar Stryd y Brenin.

Hyderus

Fe gaeodd y Parrot ym mis Awst am nad oedd y perchnogion yn medru ei gynnal fel busnes mwyach. Roedd wedi croesawu artistiaid fel Meic Stevens, Cate Le Bon, Gulp, Robin Williamson, Y Ffug a Dave Datblygu, a hefyd yn llwyfan gwerthfawr i gerddorion newydd.

Dywedodd Steffan Storch sy’n aelod o Gymuned Cerddorol Gorllewin Cymru: “Rydym ni wedi gwirioni gyda’r cyfraniad sylweddol hwn sy’n golygu ein bod wedi cyrraedd hanner ein targed.

“Mae’n golygu, diolch i’r 80 o bobol sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn, ein bod yn hyderus y byddwn yn medru ail-agor y Parrot.

“Ond mae mwy i’w wneud nes ein bod ni’n medru fforddio’r holl newidiadau mawr ydym ni eisiau eu gwneud yno, gan gynnwys gosod system awyru a system sain well.”

Roedd Stephan Storch hefyd yn “diolch yn fawr” i’r rhoddwr anhysbys ac i’r holl gyfranwyr eraill.

Bydd yr ymgyrch codi arian yn rhedeg tan 21 Tachwedd ac mae modd cyfrannu yma: https://www.indiegogo.com/projects/save-the-parrot-and-make-it-even-better