Bydd awdures Gymreig o dras Gujarati sy’n ymgymryd â’r gwaith o ail-ddehongli’r Mabinogi yn trafod ei phrosiect newydd ym Mhrifysgol Abertawe’r wythnos nesaf.
Ar Dachwedd 4, bydd Tishani Doshi yn trafod y prosiect mewn darlith gyhoeddus sydd wedi’i chadeirio gan Dr Fflur Dafydd, Uwch-Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn y brifysgol.
Bydd ei dehongliad newydd o chwedl ‘Owain: Iarlles y Ffynnon’ yn ymddangos yn ‘Fountainville’, sy’n gasgliad o weithiau deg o awduron sy’n cynnig dehongliad newydd o’r chwedlau.
Mae Doshi yn newyddiadurwraig sydd wedi gweithio yng Nghymru ac India ac mae’n un o feirniaid Gwobr Dylan Thomas eleni.
Gwaith blaenorol
Roedd ei nofel gyntaf, ‘The Pleasure Seekers’ yn deyrnged i’w rhieni – ei thad o India a’i mam o ogledd Cymru.
Mae’r cymeriadau, sy’n seiliedig ar ei rhieni yn y nofel, yn ysgrifenyddes sy’n gweithio yn Llundain yn y 1960au a dyn ifanc o Fadras sy’n cwympo mewn cariad â hi yn erbyn ewyllys ei rieni.
Mae’r nofel yn canolbwyntio ar ymdrechion ei rieni yntau i rwystro’r pâr rhag priodi, ac yna ar benderfyniad y pâr i symud i fyw i India.
Myth y Mabinogi
Mae’r ddarlith gyhoeddus gan Doshi yn rhan o gasgliad o ddarlithoedd sydd wedi cael eu trefnu gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau’r brifysgol.
Dywedodd Tishani Doshi mewn datganiad: “Dydy myth, fel atgofion, ddim yn gyson. Mae’n annelwig, yn gallu newid, does dim modd ei osod yn ddaearyddol, ac mae’n dibynnu ar haen ar ben haen o naratif sy’n newid drwy’r amser.
“Mae myth, fel atgofion, yn aml yn dorfol. Waeth bynnag pa mor agos rydyn ni’n eu dal nhw, dydyn nhw ddim yn gaeth i ffiniau.
“Maen nhw’n gyson agored, yn barod i gael eu trawsnewid a’u hail-ddehongli.
“Am y rheswm hwn ac efallai er mwyn cofleidio fy Nghymreictod cuddiedig, cytunais i fentro i fyd y Mabinogi yn barod i gofleidio’r holl enwau Cymraeg na alla i mo’u hynganu nhw a’r digwyddiadau Celtaidd ffantasïol.”