Alwyn Gruffydd - codi cwestiynau am Cadw
Mae un cyfle i achub sinema hanesyddol wedi mynd wrth i’r corff adeiladau hanesyddol, Cadw, wrthod cais i roi statws arbennig iddo.

Mewn datganiad i Golwg360 maen nhw’n dweud nad yw sinema’r Coliseum ym Mhorthmadog yn cwrdd â’r meini prawf i restru adeilad, gan gynnig gwarchodaeth ychwanegol iddo.

Mae’r penderfyniad eisoes wedi cael ei feirniadu gan un o’r cynghorwyr lleol sy’n ceisio atal Sinema’r Coliseum ym Mhorthmadog rhag cael ei chwalu i godi fflatiau.

‘Hynod siomedig’

Dywedodd Alwyn Gruffydd wrth Golwg360 ei fod yn “hynod siomedig” gyda phenderfyniad Cadw, a dywedodd ei fod yn codi cwestiynau am waith y corff yn gwarchod adeiladau yng Nghymru.

“Onid gwarchod pensaernïaeth y gorffennol ydi dyletswydd Cadw?” meddai’r cynghorydd o blaid leol Llais Gwynedd.

“Mae blaen adeilad y Coliseum yn perthyn i gyfnod arbennig yr art deco, felly ydi Cadw yn cadw at eu dyletswyddau?”

Datganiad Cadw

“Deallwn fod hwn yn newyddion siomedig ond rhaid i adeiladu fodloni gofynion rhestru sydd wedi cael eu cyhoeddi neu rhaid iddo fod o arwyddocâd lleol neu hanesyddol er mwyn cael ei restru gan Cadw.

“Dydi Coliseum Porthmadog ddim yn bodloni’r safonau a gafodd eu gosod ar gyfer rhestru adeiladau o’i fath.”

Y cefndir

Mae cwmni Development UK Northern o Altrincham yn Sir Gaer yn awyddus i brynu’r safle er mwyn ei ddymchwel ar gyfer datblygiad newydd.

Cafodd y sinema ei chau yn 2011 oherwydd diffyg diddordeb gan gwsmeriaid ac, ers pythefnos, mae Cyngor Sir Gwynedd wedi bod yn ymgynghori gyda’r cyhoedd am y bwriad.

Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben heddiw.

Y Coliseum yw un o’r adeiladau anwyla’ yng ngolwg pobol ardal Porthmadog.

Fe gafodd ei agor yn 1931 ac mae’n nodweddiadol o sinemâu y cyfnod gyda’i phensaernïaeth art deco.