Mae trigolion gafodd eu symud o’u cartrefi ar ôl i’r heddlu arestio bachgen yn ei arddegau ar amheuaeth o fod ym meddiant ffrwydron, wedi cael dychwelyd i’w tai.
Gofynnwyd i tua 50 o bobl adael eu cartrefi yn Hamilton Place, Newcastle upon Tyne, fel rhagofal, ar ôl i’r llanc 18 mlwydd oed gael ei arestio tua 11:30 bore ddoe.
Dywedodd yr heddlu ei fod yn cael ei amau o fwriadu i achosi niwed i bobl. Mae’n parhau i fod yn y ddalfa.
Y bore yma, dywedodd yr heddlu bod y trigolion lleol wedi cael caniatâd i ddychwelyd adref.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Northumbria: “Hoffai’r heddlu ddiolch i’r preswylwyr am eu cydweithrediad wrth gynorthwyo’r heddlu gyda’r mater hwn.”
Cafodd milwyr o adran fomiau’r fyddin, yng Nghatraeth, hefyd eu galw i’r stad o dai sy’n agos at stadiwm Newcastle United.