Mae Rwsia wedi methu mynychu cyfarfod arbennig oedd wedi ei drefnu er mwyn cynllunio ar gyfer yr Uwchgynhadledd Diogelwch Niwclear yn 2016, meddai swyddogion Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau.
Mae’n ergyd i ymdrechion yr Arlywydd Barack Obama i sicrhau bod y byd yn lle mwy diogel rhag terfysgaeth niwclear na phan gafodd o’i ethol yn 2008.
Dywed swyddogion nad yw hi’n glir ar hyn o bryd os oedd Rwsia’n absennol o’r cyfarfod yn Fiena gan ei body n bwriadu boicotio’r uwch gynhadledd ei hun, neu os yw Moscow yn dangos ei hanfodlonrwydd am y modd mae Washington wedi beirniadu ei rhan yn yr aflonyddwch yn yr Wcráin a arweiniodd at sancsiynau yn erbyn Rwsia.
Ond mae absenoldeb Rwsia yn arwyddocaol gan mai dim ond tri neu bedwar cyfarfod cynllunio sydd wedi eu trefnu cyn y gynhadledd yng ngwanwyn 2016. Gyda Rwsia yn un o bump o wledydd y byd sy’n cydnabod fod ganddyn nhw arfau niwclear – bydd mewnbwn arweinwyr y wlad yn hanfodol i osod agenda ar gyfer y gynhadledd.
Fe wnaeth Barack Obama gynnal cyfres o gynadleddau yn 2010 gyda’r nod o atal terfysgwyr rhag cael gafael ar ddeunydd niwclear er mwyn creu arfau.
Ers hynny, mae nifer y gwledydd sydd â digon o ddeunydd i ddatblygu arf niwclear wedi gostwng o 39 i 25.