Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dynes 78 oed y cafwyd hyd i’w chorff mewn eiddo ym Mrynbuga, Sir Fynwy dros y penwythnos.
Mae dyn 48 oed yn dal i gael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o lofruddio Anne Jackson yn ardal Llantrisant ym Mrynbuga.
Roedd Anne Jackson yn fardd a oedd yn cyhoeddi ei gwaith o dan yr enw Anne Cluysenaar.
Mae swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn parhau i roi cymorth i’w theulu ar hyn o bryd.